Defnyddio’r cartref ar gyfer busnes
Os ydych yn gweithio o’ch cartref, yn rhentu cartref gwyliau neu’n cynnig gwely a brecwast – efallai y bydd yn rhaid i chi dalu trethi busnes ar eich eiddo
Rhyddhad Trethu Busnesau Bychain
Aeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ati i ymgynghori ynghylch dewisiadau er mwyn cyflwyno gostyngiad treth i fusnesau bach yng Nghymru. Daeth y cyfnod ymgynghori i ben ar 3 Mawrth 2006
Os yw manylion yr eiddo a nodir yn eich prisiad cryno yn gywir, ni fydd angen i chi wneud unrhyw beth arall. Dylech gadw eich prisiad cryno mewn man diogel a chyfeirio ato pan fyddwch yn cael ei bil trethi busnes. Bydd eich awdurdod lleol yn anfon hwn atoch rhwng mis Chwefror a mis Ebrill fel arfer, oni bai bod eich gwerth trethadwy yn newid ac os felly, anfonir bil a phrisiad cryno newydd atoch.
Os yw’ch prisiad cryno yn cynnwys manylion sy’n anghywir, dylech ei ddiwygio a’i ddychwelyd at y Swyddfa Brisio a anfonodd y prisiad atoch.
© 2004 fynhrethibusnes.gov.uk