Defnyddio'r cartref ar gyfer busnes
Os ydych yn gweithio o’ch cartref, yn rhentu cartref gwyliau neu’n cynnig gwely a brecwast – efallai y bydd yn rhaid i chi dalu trethi busnes ar eich eiddo
Rhyddhad Trethu Busnesau Bychain
Aeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ati i ymgynghori ynghylch dewisiadau er mwyn cyflwyno gostyngiad treth i fusnesau bach yng Nghymru. Daeth y cyfnod ymgynghori i ben ar 3 Mawrth 2006
Mae gan bob eiddo annomestig – busnesau yn bennaf – werth trethadwy. Seiliwyd y ffigwr hwn ar asesiad proffesiynol o rhent blynyddol eiddo os byddai ar gael i’w osod ar y farchnad agored ar ddyddiad prisio penodol. Seiliwyd y rhestrau ardrethu newydd a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2005 ar ddyddiad prisio sef 1 Ebrill 2003 – caiff pob eiddo ei brisio ar yr un dyddiad er mwyn sicrhau y cânt eu hasesu yn gyfartal. Mae VOA yn casglu cymaint o dystiolaeth ag y bo modd am y rhentau go iawn a delir am eiddo er mwyn pennu gwerthoedd rhentu priodol.
Nid gwerth trethadwy eich eiddo yw’r cyfanswm y byddwch yn ei dalu fel trethi busnes, ond dyma sail y broses o gyfrifo eich bil trethi busnes. Bydd eich awdurdod lleol yn cyfrifo’r bil hwn trwy luosi eich gwerth trethadwy yn erbyn ffactor a bennir gan llywodraeth ganolog bob blwyddyn. Gelwir hwn y lluosydd, neu’r Dreth Fusnes Unffurf. Yna, bydd unrhyw ostyngiad yn y dreth neu addasiad arall y mae gennych yr hawl i fanteisio arno, yn cael ei weithredu gan yr awdurdod lleol.
Dim ond yr awdurdod lleol sy’n gallu cyfrifo eich atebolrwydd trethi a bydd hwn yn cael ei anfon atoch rywbryd rhwng mis Chwefror a mis Ebrill fel arfer.
© 2004 fynhrethibusnes.gov.uk