Defnyddio’r cartref ar gyfer busnes
Os ydych yn gweithio o’ch cartref, yn rhentu cartref gwyliau neu’n cynnig gwely a brecwast – efallai y bydd yn rhaid i chi dalu trethi busnes ar eich eiddo
Rhyddhad Trethu Busnesau Bychain
Aeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ati i ymgynghori ynghylch dewisiadau er mwyn cyflwyno gostyngiad treth i fusnesau bach yng Nghymru. Daeth y cyfnod ymgynghori i ben ar 3 Mawrth 2006
Efallai y bydd rhai trethdalwyr yn dewis cyflogi asiant ardrethu. Os ydych yn dymuno gwneud hyn, mae’n bwysig eich bod yn cyflogi asiant proffesiynol sydd ag enw da, oherwydd mae’n hysbys bod asiantau amheus yn gweithio mewn nifer o ardaloedd. Ceir nifer o sefydliadau proffesiynol cydnabyddedig sy’n gallu rhoi manylion syrfëwr ardrethu cymwys i chi, a fydd yn helpu i ddatrys unrhyw ymholiad ac a fydd yn cynrychioli eich buddiannau.
Gall Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) roi cyngor ardrethu proffesiynol i chi ac mae modd cysylltu ag ef ar-lein neu drwy ffonio 020 7222 7000. Mae llinell gymorth rhad ac am ddim ar gael gan RICS ar 0870 333 1600, lle na chodir tâl am hanner awr cyntaf eich cyswllt gyda syrfëwr ardrethu.
Yn ogystal, gellir cael cyngor dibynadwy ynghylch ardrethu gan Y Sefydliad Ardrethu a Phrisio Refeniw (IRRV) ar 020 7831 3505 neu www.irrv.org.uk, a The Rating Surveyors Association (RSA), www.ratingsurveyorsassociation.org. Cofiwch y gallai’r cyrff hyn godi tâl am unrhyw gyngor ardrethu proffesiynol y byddwch yn ei gael ganddynt, o’r cychwyn cyntaf.
Os byddwch yn dewis cael cyngor gan rywun nad ydynt yn perthyn i un o’r cyrff proffesiynol hyn neu os bydd asiant yn cysylltu â chi yn unionyrchol, dylech fod yn wyliadwrus. Er nad yw mwyafrif yr asiantau ardrethu yn amheus, mae’r rhai sydd yn amheus yn aml yn targedu pobl drwy’r post, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb gan addo arbedion anghymesur a defnyddio tactegau gwerthu taer. Efallai y byddant hyd yn oed yn towtio cynigion deniadol a fydd yn helpu i ostwng biliau trethi trethdalwyr ‘yn sylweddol’ heb iddynt archwilio eu heiddo na gweld eu cyfrifon hyd yn oed. Os bydd angen i Asiantaeth y Swyddfa Brisio gynnal asesiad o’ch eiddo, cofiwch y bydd yn cysylltu â chi ymlaen llaw fel arfer er mwyn cytuno ar amser cyfleus i’w gynnal. Mae holl aseswyr ardrethu VOA yn cario cardiau adnabod.
Mae trethdalwyr wedi cael achos dros gwyno am ymddygiad annheg asiantau diegwyddor sy’n cynnig amodau contract sy’n trechu’r prisiau a godir gan y cyrff proffesiynol yn fawr yn y tymor hir. Yn aml, bydd yr asiant yn gofyn am ffi ymlaen llaw am ei waith a bydd yn tynnu canran mawr fel comisiwn o unrhyw gyfanswm y byddwch yn ei arbed yn y diwedd efallai, gan wneud y broses gyfan yn broses ddrud iawn i’r trethdalwr. Mae’n bosibl na fydd yr arbedion a addawyd yn cael eu sicrhau o gwbl ychwaith.
Wrth gwrs, ni fydd pob asiant yn gofyn am arian ymlaen llaw. Fodd bynnag, mae bob amser yn hanfodol eich bod yn darllen y print mân mewn contract, er mwyn i chi fod yn siðr eich bod yn deall yr hyn yr ydych wedi cytuno talu amdano. Yn ogystal, dylech fod yn ymwybodol y gallai’r contract gynnwys amodau sy’n eich ymrwymo i gyfnod penodol o wasanaeth – efallai y byddwch yn ymrwymo eich hun am yr ymarfer ailbrisio nesaf yn ddiofal.
Hefyd, mae’n bwysig cofio nad yw gostyngiad yn eich gwerth trethadwy yn golygu y bydd eich bil trethi yn is yn awtomatig. Mae'r gwerth trethadwy yn ffactor wrth gyfrifo’r bil ond nid dyma’r cyfanswm y byddwch yn ei dalu. Bydd eich awdurdod lleol yn ystyried nifer o hawliau y byddwch yn gymwys i’w cael efallai cyn y bydd y cyfrifo eich bil trethi go iawn. Ni fydd asiant dibynadwy yn gallu gwarantu arbediad i chi heb ystyried yr holl ffactorau hyn.
Un ffordd o osgoi cyflogi asiant drygionus yw trwy sicrhau eich bod yn wybodus am y broses. Dylech ddefnyddio’r wybodaeth a ddarparwyd gennym i ofyn cwestiynau manwl i’r asiant am y costau tebygol. Dylech ddarllen yr amodau a gynigir mewn contract yn drylwyr cyn ei lofnodi. Dylai unrhyw asiant dibynadwy fod yn gallu rhoi manylion cleientiaid bodlon i chi ac fel arfer, bydd yn trefnu archwilio’r eiddo a/neu weld y cyfrifon cyn addo y bydd yn gallu gwneud gwahaniaeth sylweddol i’ch bil trethi. Fe'ch cynghorir bob amser i ddefnyddio asiant sy’n aelod o un o’r cyrff proffesiynol a enwyd uchod, ac i archwilio eu cymwysterau gyda’r corff dan sylw cyn eu cyflogi.
Cofiwch, os ydych yn dymuno cwestiynu eich prisiad cryno neu’ch gwerth trethadwy, gallwch wneud hynny yn uniongyrchol trwy gysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn rhad ac am ddim. Os ydych yn dymuno cael gwybod mwy, trowch at wefan VOA (www.voa.gov.uk) neu cysylltwch â’ch Swyddfa Brisio leol. Sefydlwyd llinell gymorth am brisiadau cryno – 0845 602 1507. Gallwch siarad yn uniongyrchol gyda rhywun sy’n arbenigo yn y maes hwn ac a fydd yn gallu delio â’ch ymholiad.
© 2004 fynhrethibusnes.gov.uk