Defnyddio’r cartref ar gyfer busnes
Os ydych yn gweithio o’ch cartref, yn rhentu cartref gwyliau neu’n cynnig gwely a brecwast – efallai y bydd yn rhaid i chi dalu trethi busnes ar eich eiddo
Rhyddhad Trethu Busnesau Bychain
Aeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ati i ymgynghori ynghylch dewisiadau er mwyn cyflwyno gostyngiad treth i fusnesau bach yng Nghymru. Daeth y cyfnod ymgynghori i ben ar 3 Mawrth 2006
Os bydd angen i dribiwnlys prisio wrando ar eich achos, byddwch yn cael o leiaf bedair wythnos o rybudd o'r dyddiad, yr amser a’r lleoliad lle y gwrandawir ar eich apêl. Byddwch yn cael llyfryn sy’n disgrifio’r hyn a fydd yn digwydd hefyd.
O leiaf dair wythnos cyn y gwrandawiad, bydd y Swyddog Prisio sy’n delio â’ch cais yn dweud wrthych am rhentau unrhyw eiddo tebyg y gallai ef neu hi gyfeirio atynt yn ystod y gwrandawiad er mwyn cefnogi eu prisiad o’ch eiddo. Byddwch yn cael gweld y dystiolaeth hon cyn y gwrandawiad. Yn ogystal, bydd gennych yr hawl i ofyn i’r Swyddog Prisio i’ch gadael i weld y dystiolaeth ynghylch rhentau a phrisiadau sydd ganddynt ynghylch eiddo sy’n debyg yn eu barn nhw. Cofiwch, gallwch archwilio manylion eiddo tebyg ar-lein hefyd. Trwy archwilio’r rhain yn gynnar, efallai y byddwch yn penderfynu peidio parhau gydag apêl, gan arbed ymdrech, amser a chost.
Dylech drafod eich apêl gyda’r Swyddog Prisio cyn y gwrandawiad er mwyn gweld a oes modd ei setlo trwy ddod i gytundeb neu dynnu’r apêl yn ôl. Os na, bydd y Swyddog Prisio yn anfon copi o’u hachos atoch, gan gynnwys manylion am y wybodaeth y byddant yn ei defnyddio efallai, o leiaf saith diwrnod cyn y gwrandawid a bydd y tribiwnlys yn gwrando ar eich apêl, ac yn penderfynu yn ei gylch, ar y dyddiad a ddarparwyd.
Mae’r gwrandawiad ei hun yn gymharol anffurfiol, gan ddilyn gweithdrefn sy’n rhoi’r cyfle i bawb gyflwyno’u hachos a gofyn cwestiynau. Nid yw’r tribiwnlys yn cael unrhyw wybodaeth am achos tan y gwrandawiad. Felly, mae’n bwysig bod gennych gymaint o dystiolaeth ag y bo modd, gan gynnwys unrhyw ddogfennau neu ffotograffau sy'n berthnasol yn eich barn chi.
Gall y tribiwnlys gyfleu ei benderfyniad ar lafar ar ddiwedd y gwrandawiad ond bydd y mwyafrif yn anfon eu penderfyniadau drwy’r post – yn ôl y gyfraith, rhaid i chi gael copi ysgrifenedig o’r rhesymau dros y penderfyniad.
Mae bob amser yn ddefnyddiol mynychu’r gwrandawiad yn bersonol er mwyn i chi allu rhoi unrhyw wybodaeth ychwanegol y bydd ei hangen ar y tribiwnlys efallai er mwyn gwneud penderfyniad. Gallwch, fodd bynnag, gynnwys cyflwyniad ysgrifenedig, lle y byddwch yn rhoi manylion unrhyw bwyntiau yr hoffech i’r tribiwnlys eu hystyried. Neu, os byddwch chi a’r Swyddog Prisio yn cytuno, gall y tribiwnlys wneud ei benderfyniad ar sail cyflwyniadau ysgrifenedig gan y ddwy ochr yn unig – ac os felly, ni chynhelir gwrandawiad ffurfiol.
Sylwer y gallai’r tribiwnlys benderfynu codi eich gwerth trethadwy yn hytrach na’i ostwng. Mae hyn yn anarferol iawn, fodd bynnag, a byddai unrhyw gynnydd yn berthnasol o ddyddiad y penderfyniad yn unig.
Trwy gydol y broses apelio, rhaid i chi barhau i dalu eich taliadau a nodir ar eich bil gwreiddiol, fel arall, gallai’ch awdurdod lleol gymryd camau i’w hadfer.
Mae’n bwysig eich bod yn ymwybodol o’r ffaith nad yw gostyngiad i’ch gwerth trethadwy yn golygu y bydd eich bil trethi yn gostwng yn awtomatig.
© 2004 fynhrethibusnes.gov.uk