Defnyddio’r cartref ar gyfer busnes
Os ydych yn gweithio o’ch cartref, yn rhentu cartref gwyliau neu’n cynnig gwely a brecwast – efallai y bydd yn rhaid i chi dalu trethi busnes ar eich eiddo
Rhyddhad Trethu Busnesau Bychain
Aeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ati i ymgynghori ynghylch dewisiadau er mwyn cyflwyno gostyngiad treth i fusnesau bach yng Nghymru. Daeth y cyfnod ymgynghori i ben ar 3 Mawrth 2006
Os yw’r ffeithiau am eich eiddo a ddangosir yn y prisiad cryno yn gywir ond os ydych yn anghytuno gyda’r gwerth trethadwy, gallwch wneud apêl ffurfiol.
Ceir nifer o amgylchiadau lle y gallech deimlo ei bod yn briodol apelio yn erbyn eich gwerth trethadwy. Efallai eich bod o’r farn ei fod yn rhy uchel o'i gymharu ag eiddo tebyg, efallai eich bod wedi addasu eich eiddo sy’n golygu bod ei werth yn is, neu efallai bod yr eiddo bellach wedi’i eithrio o drefniadau ardrethu. Gelwir y broses o wneud apêl yn erbyn eich gwerth trethadwy yn wneud cynnig i newid y rhestr ardrethu. Gallwch wneud apêl yn erbyn eich asesiad 2005 ar unrhyw adeg, ond gallai’r dyddiad y bydd unrhyw newid sy'n deillio o hyn yn dod i rym, gael ei effeithio gan y dyddiad y cyflwynwyd y cynnig. Dim ond unwaith y gallwch apelio yn erbyn y gwerth trethadwy a roddwyd i’ch eiddo yn wreiddiol ac unwaith yn erbyn unrhyw newid a allai ddigwydd.
Gallwch apelio’n uniongyrchol i VOA; ni fydd cost am wneud hyn. Bydd eich Swyddfa Brisio leol yn gallu rhoi’r ffurflen apelio briodol i chi. Nodir ei chyfeiriad ar y llythyr a anfonwyd gyda’ch prisiad cryno. Mae gan eich Swyddfa Brisio leol staff sy’n gallu delio â chi yn uniongyrchol a’ch helpu i lenwi ffurflen apelio. Neu, gallwch apelio ar-lein ar wefan VOA.
Mae rhai trethdalwyr yn rhoi cyfarwyddyd i syrfewyr ardrethu eu cynghori ynghylch a yw eu gwerth trethadwy yn dderbyniol neu a ddylid apelio yn ei erbyn. Nid oes yn rhaid i chi roi cyfarwyddyd i gynghorydd proffesiynol, gallwch gysylltu â’ch Swyddog Prisio lleol, a fydd yn gallu datrys y mater ym mwyafrif yr achosion. Mae cyngor ardrethu proffesiynol ar gael gan aelodau Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) (020 7222 7000 neu ar-lein), Y Sefydliad Ardrethu a Phrisio Refeniw (IRRV) (020 7831 3505 neu www.irrv.org.uk) a Rating Surveyors Association (RSA) (www.ratingsurveyorsassociation.org). Efallai y codir tâl arnoch am unrhyw gyngor neu gymorth a roddir. Mae gan RICS linell gymorth sy’n cynnig cyngor rhad ac am ddim am yr hanner awr gyntaf gan syrfëwr ardrethu lleol. Ffoniwch y linell ar 0870 333 1600.
Yn aml, mae asiantau diegwyddor yn cysylltu â threthdalwyr gyda chynigion deniadol i’w helpu i ostwng eu biliau trethi ‘yn sylweddol’. Yn aml, mae’r realiti yn llai deniadol. Mae’n bwysig eich bod yn ystyried amodau a thelerau unrhyw gontract y gofynnir i chi ei lofnodi, yn ofalus.
Bydd y Swyddfa Brisio yn cydnabod eich apêl yn ysgrifenedig cyn pen 10 diwrnod gwaith gan gadarnhau yr hyn y bydd yn ei wneud nesaf. Yn ôl yr angen, efallai y bydd Swyddog Prisio yn gwneud trefniadau i ymweld â’ch eiddo. Mae mwyafrif yr achosion yn cael eu datrys rhwng trethdalwyr a’u Swyddogion Prisio lleol. Os na fydd modd datrys yr apêl trwy drafod, efallai y bydd tribiwnlys prisio annibynnol yn gwrando arno. Dylid nodi y gall rhai achosion apêl gymryd cryn amser cyn y cânt eu datrys.
© 2004 fynhrethibusnes.gov.uk