Defnyddio'r cartref ar gyfer busnes
Os ydych yn gweithio o’ch cartref, yn rhentu cartref gwyliau neu’n cynnig gwely a brecwast – efallai y bydd yn rhaid i chi dalu trethi busnes ar eich eiddo
Rhyddhad Trethu Busnesau Bychain
Aeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ati i ymgynghori ynghylch dewisiadau er mwyn cyflwyno gostyngiad treth i fusnesau bach yng Nghymru. Daeth y cyfnod ymgynghori i ben ar 3 Mawrth 2006
Mae’r prisiad cryno yn esbonio sut y cyfrifwyd gwerth trethadwy eich eiddo busnes. Anfonodd VOA gopi papur at y rhan fwyaf o drethdalwyr ym mis Hydref 2004. Mae prisiadau cryno ar gael ar-lein hefyd er mwyn sicrhau y gellir archwilio manylion eiddo cymharol. Mae VOA yn gyfrifol am bennu gwerthoedd trethadwy pob eiddo busnes yng Nghymru a Lloegr, 1.75 miliwn ohonynt.
Yn y dyfodol, pan fo hynny’n briodol, bydd pob busnes yn cael prisiadau cryno. Ar hyn o bryd, maent ar gael i’r rhan fwyaf o siopau, swyddfeydd ac eiddo diwydiannol – oddeutu 1.3 miliwn at ei gilydd. Os bydd VOA yn ailasesu ac yn newid gwerth trethadwy y busnesau hynny sydd wedi cael prisiad cryno, anfonir prisiad cryno wedi’i ddiweddaru atynt, sy’n adlewyrchu unrhyw ddiwygiadau.
Mae defnyddio prisiadau cryno yn ddull gweithredu newydd. Yn y gorffennol, fe’ch hysbyswyd o werth trethadwy eich eiddo yn unig. O hyn ymlaen, byddwch yn cael dadansoddiad llawn o’r ffordd y cyfrifwyd eich gwerth trethadwy, wedi’i seilio ar nodweddion yr eiddo a ddefnyddir gennych.
Nid bil trethi yw’r prisiad cryno. Bydd eich awdurdod lleol yn cyfrifo eich bil trethi trwy luosi’r gwerth trethadwy gyda ffactor a bennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru bob blwyddyn o’r enw y lluosyd, neu'r Dreth Fusnes Unffurf. Yna, bydd eich awdurdod lleol yn gweithredu unrhyw ostyngiadau y gallai fod gennych yr hawl i fanteisio arnynt, er mwyn rhoi ffigwr terfynol ar gyfer eich bil. Byddwch yn cael eich bil trethi gan eich awdurdod lleol rywbryd rhwng mis Chwefror a mis Ebrill bob blwyddyn.
© 2004 fynhrethibusnes.gov.uk