Defnyddio'r cartref ar gyfer busnes
Os ydych yn gweithio o’ch cartref, yn rhentu cartref gwyliau neu’n cynnig gwely a brecwast – efallai y bydd yn rhaid i chi dalu trethi busnes ar eich eiddo
Rhyddhad Trethu Busnesau Bychain
Aeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ati i ymgynghori ynghylch dewisiadau er mwyn cyflwyno gostyngiad treth i fusnesau bach yng Nghymru. Daeth y cyfnod ymgynghori i ben ar 3 Mawrth 2006
Os oes gennych siop nodweddiadol, mae’n debygol y bydd wedi’i ‘dynodi’n barthau’ fel ffordd o bennu’r gwerth trethadwy. Bydd y parthau hyn yn ymddangos yn eich prisiad cryno fel Parth Adwerthu A, Parth Adwerthu B ac ati. Mae dynodi parthau wedi’i seilio ar yr egwyddor bod rhan fwyaf gwerthfawr siop fesul metr sgwâr i’w gweld yn y man gwerthu y tu blaen, sef y man agosaf at fynedfa’r cwsmeriaid, a chan gynnwys unrhyw fan arddangos. Mae hyn yn golygu bod tu blaen y siop yn fwy gwerthfawr na’r cefn.
Ym mwyafrif yr achosion, parth A tu blaen y siop ar lefel gerdded. Fel arfer, mae’n 6.1 metr o ran dyfnder ac mae’r mesur hwn yn cyfateb â’r hyn a arferai fod yn 20 troedfedd. Fel arfer, parth B yw’r 6.1 metr nesaf ac mae’n hanner gwerth parth A fel arfer. Fel arfer, mae parth C, os ceir parth C, yn cyfateb â’r 6.1 metr nesaf ac mae’n chwarter gwerth parth A fel arfer. Caiff gweddill y llawr gwaelod ei gyfrifo i ddangos y safle sydd ar ôl ar ôl cwblhau’r broses o ddynodi parthau. Gellir mynegi safleoedd gwerthu a safleoedd atodol ar loriau eraill fel ffactor o werth parth A hefyd – er enghraifft, gallai safle storio mewn islawr fod yn werth ugeinfed rhan o werth parth A.
|
|
|
|
|
|
|
STRYD |
|
|
|
|
|
|
Parth A |
Parth B |
Parth C |
|
Gallai dyfnder pob parth neu nifer y parthau ar y llawr daear fod yn wahanol gan ddibynnu ar y cynllun prisio arbennig a ddefnyddir. Dylech edrych i weld sut mae’ch eiddo wedi cael ei drin trwy troi at nodiadau'r cynllun prisio ar gais rhestr drethi Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Gellir gweld cyfeirnod y cynllun prisio yn eich prisiad cryno, gerllaw disgrifiad yr eiddo.
© 2004 fynhrethibusnes.gov.uk