Defnyddio'r cartref ar gyfer busnes
Os ydych yn gweithio o’ch cartref, yn rhentu cartref gwyliau neu’n cynnig gwely a brecwast – efallai y bydd yn rhaid i chi dalu trethi busnes ar eich eiddo
Rhyddhad Trethu Busnesau Bychain
Aeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ati i ymgynghori ynghylch dewisiadau er mwyn cyflwyno gostyngiad treth i fusnesau bach yng Nghymru. Daeth y cyfnod ymgynghori i ben ar 3 Mawrth 2006
Cyhoeddir prisiad cryno os bydd gwerth trethadwy eiddo yn cael ei ddiwygio. Os byddwch yn cael prisiad cryno, dylech archwilio’r manylion a nodir ynddo yn ofalus. Os byddwch yn fodlon eu bod yn gywir, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth arall. Byddwch yn cael bil trethi busnes gan eich awdurdod lleol ar ôl iddo gael ei hysbysu o’r diwygiad.
Os bydd y manylion yn y prisiad cryno yn anghywir, gallai hynny effeithio ar eich bil trethi. Dylech wneud yn siðr mai’r eiddo yr ydych yn ei ddefnyddio yw’r un a ddangosir yn y bocs Cyfeiriad yn y Rhestr Ardrethu a bod manylion a disgrifiad yr eiddo yn gywir. Os bydd unrhyw fanylion yn anghywir – er enghraifft, mae’ch prisiad cryno yn cynnwys safle nad ydych yn ei ddefnyddio mwyach – dylech ddiwygio a dychwelyd eich prisiad cryno i’r Swyddfa Brisio. Nodir y cyfeiriad yn y llythyr eglurhaol a gallwch ddisgwyl cael ateb cyn pen 20 diwrnod gwaith. Cofiwch gadw copi o’ch prisiad diwygiedig at ddibenion cyfeirio yn y dyfodol.
Os bydd angen help pellach arnoch, gallwch ysgrifennu at, anfon e-bost at neu ffonio eich Swyddfa Brisio leol. Mae llinell gymorth ar gael gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio - 0845 602 1507. Gallwch siarad yn uniongyrchol gyda rhywun sy’n arbenigo yn y maes hwn ac a fydd yn gallu delio â’ch ymholiad.
© 2004 fynhrethibusnes.gov.uk