Defnyddio’r cartref ar gyfer busnes
Os ydych yn gweithio o’ch cartref, yn rhentu cartref gwyliau neu’n cynnig gwely a brecwast – efallai y bydd yn rhaid i chi dalu trethi busnes ar eich eiddo
Bob pum mlynedd, mae gwerthoedd trethadwy yr holl eiddo busnes yng Nghymru a Lloegr, 1.75 miliwn ohonynt, yn cael eu hailasesu. Daeth yr ailbrisiad mwyaf diweddar i rym ar 1 Ebrill 2005. Mae nifer o drethdalwyr yn cael manylion am eu gwerth trethadwy newydd arfaethedig ar ffurf prisiad cryno
Mae’r lluosydd – y cyfeirir ato fel y Dreth Fusnes Unffurf (UBR) weithiau hefyd – yn ffactor allweddol wrth gyfrifo eich bil trethi. Caiff ei osod bob blwyddyn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac mae’n pennu canran (a fynegir fel ceiniog o’r bunt) o werth trethadwy eich eiddo y byddwch yn ei dalu mewn trethi busnes. Er 1 Ebrill 2007, pennwyd mai 44.8c yw’r lluosydd.
Os mai £10,000 oedd gwerth trethadwy eich eiddo, byddai eich awdurdod lleol yn ei luosi yn erbyn 44.8c i gael cyfanswm ar gyfer y flwyddyn o £4,480. Os ydych yn gymwys i fanteisio ar unrhyw ostyngiad mewn trethi, caiff y swm hwn ei addasu i adlewyrchu hynny, gan roi cyfanswm terfynol ar gyfer eich bil trethi. Fel arfer, mae’r lluosydd yn newid bob blwyddyn yn unol â chwyddiant.
© 2004 fynhrethibusnes.gov.uk