Defnyddio'r cartref ar gyfer busnes
Os ydych yn gweithio o’ch cartref, yn rhentu cartref gwyliau neu’n cynnig gwely a brecwast – efallai y bydd yn rhaid i chi dalu trethi busnes ar eich eiddo
Bob pum mlynedd, mae gwerthoedd trethadwy yr holl eiddo busnes yng Nghymru a Lloegr, 1.75 miliwn ohonynt, yn cael eu hailasesu. Daeth yr ailbrisiad mwyaf diweddar i rym ar 1 Ebrill 2005. Mae nifer o drethdalwyr yn cael manylion am eu gwerth trethadwy newydd arfaethedig ar ffurf prisiad cryno
Mae gan bob eiddo annomestig – busnesau yn bennaf – werth trethadwy. Seiliwyd y ffigwr hwn ar asesiad proffesiynol o’r rhent blynyddol ar gyfer eiddo os byddai ar gael i’w osod ar y farchnad agored ar ddyddiad prisio penodol. Seiliwyd y rhestrau ardrethu a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2005 ar ddyddiad prisio o 1 Ebrill 2003 – mae pob eiddo yn cael eu prisio ar yr un dyddiad er mwyn sicrhau y cânt eu hasesu yn gyfartal. Mae VOA yn casglu cymaint o dystiolaeth ag y bo modd am y rhent go iawn a delir ar gyfer eiddo er mwyn pennu gwerthoedd rhentu priodol.
Nid y cyfanswm y byddwch yn ei dalu mewn trethi busnes yw gwerth trethadwy eich eiddo ond yn hytrach, mae’n sail ar gyfer cyfrifo eich bil trethi busnes. Bydd eich awdurdod lleol yn cyfrifo’r bil hwn trwy luosi eich gwerth trethadwy yn erbyn ffactor a bennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru bob blwyddyn. Gelwir hwn y lluosydd, neu’r Dreth Fusnes Unffurf (UBR). Yna, bydd yr awdurdod lleol yn gweithredu unrhyw ostyngiad i’r dreth neu addasiad arall y mae gennych yr hawl i fanteisio arno.
Dim ond yr awdurdod lleol sy’n gallu cyfrifo eich atebolrwydd trethi ac ni fydd hyn ar gael i chi tan rhyw adeg rhwng mis Chwefror a mis Ebrill ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
© 2004 fynhrethibusnes.gov.uk