Defnyddio’r cartref ar gyfer busnes
Os ydych yn gweithio o’ch cartref, yn rhentu cartref gwyliau neu’n cynnig gwely a brecwast – efallai y bydd yn rhaid i chi dalu trethi busnes ar eich eiddo
Bob pum mlynedd, mae gwerthoedd trethadwy yr holl eiddo busnes yng Nghymru a Lloegr, 1.75 miliwn ohonynt, yn cael eu hailasesu. Daeth yr ailbrisiad mwyaf diweddar i rym ar 1 Ebrill 2005. Mae nifer o drethdalwyr yn cael manylion am eu gwerth trethadwy newydd arfaethedig ar ffurf prisiad cryno.
Fel arfer, bydd eich awdurdod lleol yn gofyn i chi dalu eich bil trethi busnes ar ffurf sawl rhandaliad misol. Bydd nifer y rhandaliadau yn dibynnu ar gyfanswm eich atebolrwydd – yr isafswm ar gyfer rhandaliad yw Ł50. Bydd eich bil yn dangos cyfanswm pob rhandaliad a’r dyddiadau y dylech dalu pob un erbyn. Efallai y byddwch yn gallu talu ar-lein – os yw’ch awdurdod lleol yn darparu’r cyfleuster hwn, gallwch fanteisio arno yn yr adran cysylltiadau.
Dylech gysylltu â’ch awdurdod lleol cyn gynted ag y bo modd os na allwch dalu’r bil neu unrhyw rai o’r rhandaliadau – efallai y byddant yn gallu newid cyfansymiau a dyddiadau eich taliadau. Ni ddylech anwybyddu’ch bil – os na fyddwch yn ei dalu neu’n cytuno ar drefniant ysgrifenedig er mwyn ei dalu, gall yr awdurdod lleol gymryd camau yn eich erbyn. Gallai hyn olygu y bydd yn rhaid i chi dalu cyfanswm uwch.
© 2004 fynhrethibusnes.gov.uk