Defnyddio’r cartref ar gyfer busnes
Os ydych yn gweithio o’ch cartref, yn rhentu cartref gwyliau neu’n cynnig gwely a brecwast – efallai y bydd yn rhaid i chi dalu trethi busnes ar eich eiddo
Deall prisiadau cryno
Bob pum mlynedd, mae gwerthoedd trethadwy yr holl eiddo busnes yng Nghymru a Lloegr, 1.75 miliwn ohonynt, yn cael eu hailasesu. Daeth yr ailbrisiad mwyaf diweddar i rym ar 1 Ebrill 2005. Mae nifer o drethdalwyr yn cael manylion am eu gwerth trethadwy newydd arfaethedig ar ffurf prisiad cryno.
Gall busnesau wneud cais am nifer o ostyngiadau trethi er mwyn hwyluso effaith eu bil trethi busnes. Mae’r adran hon yn amlinellu’r meini prawf angenrheidiol er mwyn bod yn gymwys am bob math o ostyngiad ac mae’n rhoi syniad cyffredinol o’r effaith y gallai hyn ei gael ar eich bil.
Sylwer y dylech gysylltu â’ch awdurdod lleol i wneud cais am unrhyw fath o ostyngiad ac am wybodaeth bellach.
Mae’r mathau canlynol o ostyngiadau trethi ar gael:
Eiddo sy'n wag ac nas defnyddir
Heb fod yn elusen, ond yn fath arall o sefydliad dielw
Clybiau chwaraeon amatur cymunedol
Anheddiad gwledig - Nid yw'r rhyddhad yma bellach ar gael
Ni ddefnyddir rhan o’ch eiddo ac mae’n hollol segur am gyfnod byr
Rydych yn dioddef caledi difrifol ac ni allwch dalu eich bil
Eiddo sy’n wag ac nas defnyddir
Ni fyddwch yn talu unrhyw drethi busnes am y tri mis cyntaf pan fydd yr eiddo yn wag ac ar ôl hynny, byddwch yn talu cyfradd eiddo gwag o 50% o’r bil arferol. Ond ar gyfer adeiladau diwydiannol, adeiladau rhestredig ac eiddo bach y mae eu gwerth trethadwy yn is na £1,500, ni fydd angen talu trethi ar ôl y tri mis cyntaf hyd yn oed. Mae gostyngiad eiddo gwag ar gael i’r perchennog - yn yr achos hwn, y perchennog yw’r unigolyn y mae ganddynt yr hawl i feddiannu’r eiddo dan sylw.
Elusennau a siopau elusennol
Os defnyddir yr eiddo at ddibenion elusennol yn bennaf neu’n gyfan gwbl, neu os yw’r sefydliad neu’r corff sy’n ei feddiannu wedi cael ei sefydlu at ddibenion elusennol yn unig, neu os yw’n cael ei feddiannu gan bobl sy’n gweinyddu ymddiriedolaeth a sefydlwyd at ddibenion elusennol yn unig, mae gennych yr hawl awtomatig i gael gostyngiad o 80% ar eich bil. Bydd angen i chi wneud cais i’ch awdurdod lleol, fodd bynnag, er mwyn sicrhau eich bod yn ei gael. Yn achos siopau elusennol, rhaid i’r eiddo gael ei ddefnyddio’n bennaf neu’n gyfan gwbl er mwyn gwerthu nwyddau a roddir i elusen ac mae’n rhaid i’r elw a wneir o werthu’r nwyddau (ar ôl didynnu treuliau) gael ei ddefnyddio at ddibenion elusennol.
Yn ogystal, gall eich awdurdod lleol benderfynu gostwng y cyfanswm y mae’n rhaid i chi ei dalu ymhellach - neu faddau’r cyfanswm llawn hyd yn oed. Gwneir penderfyniadau fesul achosion unigol.
Heb fod yn elusen, ond yn fath arall o sefydliad dielw
Er nad oes gennych hawl awtomatig, gall awdurdodau lleol benderfynu rhoi gostyngiad i chi neu ganslo’ch bil yn gyfan gwbl. Rhaid i’ch sefydliad fod yn un dielw ac mae’n rhaid i’r eiddo a feddiannir ganddo gael ei ddefnyddio at ddibenion elusennol, dyngarol neu grefyddol, neu fod yn ymwneud ag addysg, lles cymdeithasol, gwyddoniaeth, llenyddiaeth neu gelfyddyd gain. Neu, mae’n rhaid i’r eiddo gael ei ddefnyddio gan sefydliad dielw yn bennaf neu’n gyfan gwbl at ddibenion adloniant.
Clybiau chwaraeon amatur cymunedol
Os ydych wedi’ch cofrestru fel clwb chwaraeon amatur cymunedol, mae gennych yr hawl awtomatig i gael gostyngiad o 80% ar eich bil. Bydd angen i chi wneud cais i’ch awdurdod lleol, fodd bynnag, er mwyn sicrhau eich bod yn ei gael. Yn ogystal, gall eich awdurdod lleol benderfynu gostwng y cyfanswm y mae’n rhaid i chi ei dalu ymhellach - neu faddau’r cyfanswm llawn hyd yn oed. Gwneir penderfyniadau fesul achosion unigol
Anheddiad gwledig
Nid yw'r rhyddhad yma bellach ar gael
Ni ddefnyddir rhan o’ch eiddo ac mae’n hollol segur am gyfnod byr
Efallai y bydd eich awdurdod lleol yn ystyried rhoi gostyngiad i chi os bydd yn penderfynu eich bod yn gymwys i’w gael, gan ostwng eich taliad ar gyfer rhan yr eiddo y mae’n amlwg ei fod yn wag ac yn segur am gyfnod byr. Gall eich awdurdod lleol ddewis i VOA rannu’r gwerth trethadwy presennol rhwng rhannau’r eiddo a feddiannir a’r rhannau nas meddiannir. Os bydd eich cais am y gostyngiad hwn i’r trethi yn llwyddiannus, dim ond ar gyfer rhan yr eiddo a feddiannir y byddwch yn talu trethi llawn, a 50% ar gyfer y rhan nas meddiannir.
Rydych yn dioddef caledi difrifol ac ni allwch dalu eich bil
Gall eich awdurdod lleol gynnig gostyngiad o 100% i chi - yr awdurdod sy’n gyfrifol am wneud y penderfyniad hwn. Fel arfer, yr unig adeg y byddai’n gwneud hyn yw mewn achosion eithafol o galedi ac i fusnesau sy’n arbennig o bwysig i’r gymuned leol. Byddai angen iddo fod yn fodlon y byddech yn dioddef caledi os na fyddai’r gostyngiad yn cael ei roi ac mae’n ystyried y ffaith y bydd trethdalwyr lleol yn talu rhan o gost y gostyngiad.
© 2004 fynhrethibusnes.gov.uk