Defnyddio'r cartref ar gyfer busnes
Os ydych yn gweithio o’ch cartref, yn rhentu cartref gwyliau neu’n cynnig gwely a brecwast – efallai y bydd yn rhaid i chi dalu trethi busnes ar eich eiddo
Bob pum mlynedd, mae gwerthoedd trethadwy yr holl eiddo busnes yng Nghymru a Lloegr, 1.75 miliwn ohonynt, yn cael eu hailasesu. Daeth yr ailbrisiad mwyaf diweddar i rym ar 1 Ebrill 2005. Mae nifer o drethdalwyr yn cael manylion am eu gwerth trethadwy newydd arfaethedig ar ffurf prisiad cryno.
Mae’r rhan fwyaf o ddeiliaid eiddo busnes yn talu trethi busnes fel ffordd o gyfrannu at gost gwasanaethau lleol.
Byddwch yn cael eich bil trethi gan eich awdurdod lleol bob blwyddyn, rhwng mis Chwefror a mis Ebrill. Bydd hwn yn nodi’r cyfanswm y bydd yn rhaid i chi ei dalu yn ystod y flwyddyn i ddod a sut mae’r awdurdod lleol wedi cyfrifo’r swm hwnnw. Fel arfer, gofynnir i chi dalu mewn nifer o randaliadau. Mae’r bil yn dangos cyfanswm pob rhandaliad a’r dyddiadau y dylech eu talu erbyn.
Er bod eich awdurdod lleol yn dosbarthu’r bil ac yn casglu eich trethi busnes, mae’r cyfanswm a gesglir ar draws y wlad yn cael ei roi mewn cronfa drethi ganolog i Gymru. Rheolir hon gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, sy’n ailddosbarthu’r cronfeydd i awdurdodau lleol ac i gyrff eraill fel yr heddlu ac awdurdodau tân.
Sut mae hwn yn cael ei gyfrifo?
© 2004 fynhrethibusnes.gov.uk