Defnyddio'r cartref ar gyfer busnes
Os ydych yn gweithio o’ch cartref, yn rhentu cartref gwyliau neu’n cynnig gwely a brecwast – efallai y bydd yn rhaid i chi dalu trethi busnes ar eich eiddo
Bob pum mlynedd, mae gwerthoedd trethadwy yr holl eiddo busnes yng Nghymru a Lloegr, 1.75 miliwn ohonynt, yn cael eu hailasesu. Daeth yr ailbrisiad mwyaf diweddar i rym ar 1 Ebrill 2005. Mae nifer o drethdalwyr yn cael manylion am eu gwerth trethadwy newydd arfaethedig ar ffurf prisiad cryno.
Mae eich awdurdod lleol yn cyfrifo eich bil trethi busnes trwy luosi gwerth trethadwy eich eiddo yn erbyn ffactor a bennwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (a fynegir fel ceiniog o’r bunt). Gelwir hwn y lluosydd, neu’r Dreth Fusnes Unffurf. Er enghraifft, yn 2006/07 y lluosydd yw 43.2c. Felly, os mai £10,000 yw gwerth trethadwy eich eiddo, byddai eich awdurdod lleol yn ei luosi gyda 43.2c i gael cyfanswm ar gyfer y flwyddyn o £4,320, cyn y gweithredir unrhyw ostyngiad i’r dreth.
Bob pum mlynedd, bydd VOA yn ailbrisio pob eiddo busnes – daeth yr un mwyaf diweddar i rym ar 1 Ebrill 2005. Nid yw codiad yn eich gwerth trethadwy yn ystod yr ymarfer ailbrisio yn golygu y bydd eich bil trethi o reidrwydd yn codi hefyd. Mae hyn oherwydd bod y lluosydd yn cael ei addasu i wneud yn siðr bod y cyfanswm a gesglir gan drethdalwyr yn aros yr un fath ar ôl ystyried chwyddiant.
Er enghraifft, efallai y bydd eich gwerth trethadwy yn codi o £11,000 i £12,000 ar ôl ymarfer ailbrisio. Os bydd lefel gyfan gwbl y gwerth trethadwy yn codi hefyd, oherwydd bod gwerth eiddo wedi codi yn gyffredinol, bydd y lluosydd yn gostwng – ar gyfer 2005/06, fe’i gwelwyd yn gostwng o 45.2c i 42.1c. Rhwng ymarferion ailbrisio, bydd y lluosydd yn codi bob blwyddyn yn unol â chwyddiant.
Bydd eich awdurdod lleol yn cyfrifo’r cyfanswm y dylech ei dalu mewn trethi busnes ac yna, bydd yn ei addasu i gynnwys unrhyw ostyngiad y mae gennych yr hawl iddo.
Am ragor o wybodaeth am gydrannau eich bil, defnyddiwch y bar llywio ar y chwith.
© 2004 fynhrethibusnes.gov.uk