Defnyddio’r cartref ar gyfer busnes
Os ydych yn gweithio o’ch cartref, yn rhentu cartref gwyliau neu’n cynnig gwely a brecwast – efallai y bydd yn rhaid i chi dalu trethi busnes ar eich eiddo
Bob pum mlynedd, mae gwerthoedd trethadwy yr holl eiddo busnes yng Nghymru a Lloegr, 1.75 miliwn ohonynt, yn cael eu hailasesu. Daeth yr ailbrisiad mwyaf diweddar i rym ar 1 Ebrill 2005. Mae nifer o drethdalwyr yn cael manylion am eu gwerth trethadwy newydd arfaethedig ar ffurf prisiad cryno.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach am eich bil trethi, os hoffech drafod y taliad neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am unrhyw rai o’r gostyngiadau trethi busnes y gallech fod yn gymwys i’w cael, dylech gysylltu â’ch awdurdod lleol. Nodir y manylion ar eich bil neu gallwch droi at yr adran cysylltiadau ar y wefan hon.
© 2004 fynhrethibusnes.gov.uk