Defnyddio’r cartref ar gyfer busnes
Os ydych yn gweithio o’ch cartref, yn rhentu cartref gwyliau neu’n cynnig gwely a brecwast – efallai y bydd yn rhaid i chi dalu trethi busnes ar eich eiddo
Bob pum mlynedd, mae gwerthoedd trethadwy yr holl eiddo busnes yng Nghymru a Lloegr, 1.75 miliwn ohonynt, yn cael eu hailasesu. Daeth yr ailbrisiad mwyaf diweddar i rym ar 1 Ebrill 2005. Mae nifer o drethdalwyr yn cael manylion am eu gwerth trethadwy newydd arfaethedig ar ffurf prisiad cryno.
Os ydych yn credu bod eich bil trethi yn anghywir am unrhyw reswm, dylech gysylltu â’ch awdurdod lleol yn syth, er mwyn iddo allu esbonio sut mae wedi ei gyfrifo. Nodir y manylion ar eich bil. Mae’n bwysig eich bod yn parhau i dalu yn y cyfamser.
© 2004 fynhrethibusnes.gov.uk