Defnyddio'r cartref ar gyfer busnes
Os ydych yn gweithio o’ch cartref, yn rhentu cartref gwyliau neu’n cynnig gwely a brecwast – efallai y bydd yn rhaid i chi dalu trethi busnes ar eich eiddo
Bob pum mlynedd, mae gwerthoedd trethadwy yr holl eiddo busnes yng Nghymru a Lloegr, 1.75 miliwn ohonynt, yn cael eu hailasesu. Daeth yr ailbrisiad mwyaf diweddar i rym ar 1 Ebrill 2005. Mae nifer o drethdalwyr yn cael manylion am eu gwerth trethadwy newydd arfaethedig ar ffurf prisiad cryno.
Nid oes ymrwymiad cyfreithiol arnoch i hysbysu VOA os byddwch yn gwneud addasiadau i’ch busnes, a allai olygu bod ei werth trethadwy yn codi. Fodd bynnag, mae o gymorth i chi hysbysu eich Swyddfa Brisio leol – mae hyn yn osgoi’r posibilrwydd o gael cynnydd annisgwyl wedi’i ôl-ddyddio yn eich trethi am unrhyw welliannau a wnaethpwyd.
© 2004 fynhrethibusnes.gov.uk