Defnyddio'r cartref ar gyfer busnes
Os ydych yn gweithio o’ch cartref, yn rhentu cartref gwyliau neu’n cynnig gwely a brecwast – efallai y bydd yn rhaid i chi dalu trethi busnes ar eich eiddo
Bob pum mlynedd, mae gwerthoedd trethadwy yr holl eiddo busnes yng Nghymru a Lloegr, 1.75 miliwn ohonynt, yn cael eu hailasesu. Daeth yr ailbrisiad mwyaf diweddar i rym ar 1 Ebrill 2005. Mae nifer o drethdalwyr yn cael manylion am eu gwerth trethadwy newydd arfaethedig ar ffurf prisiad cryno.
A ydych yn symud eich busnes neu’n chwilio am eiddo ychwanegol? Cyn i chi symud, efallai y byddwch yn dymuno cael gwybod beth fydd cyfanswm tebygol eich bil trethi. Gallwch ddarganfod gwerth trethadwy unrhyw eiddo busnes mewn ardal awdurdod lleol trwy edrych ar y rhestr ardrethu. Mae hon yn ddogfen gyhoeddus ac mae modd edrych arni yn eich Swyddfa Brisio leol, swyddfeydd awdurdod lleol ac mewn rhai llyfrgelloedd cyhoeddus. Gallwch edrych ar y gwerth trethadwy ar-lein hefyd.
Cofiwch nad y gwerth trethadwy yw’r cyfanswm y byddwch yn ei dalu fel trethi busnes. I ddarganfod beth fydd cyfanswm eich trethi busnes, dylech gysylltu ag adran gyllid eich awdurdod lleol.
Os yw’ch eiddo yn cael ei adeiladu o hyd neu os yw newydd gael ei adeiladu, efallai na fydd wedi cael ei asesu at ddibenion ardrethu eto – felly ni fydd unrhyw gofnod ohono yn y rhestr ardrethu. Gallwch ofyn am amcangyfrif o’i werth trethadwy trwy ysgrifennu at eich Swyddfa Brisio leol. Bydd angen i chi gynnwys manylion ynghylch cyfeiriad yr eiddo, y math o eiddo ydyw – fel siop neu swyddfa – a chynllun sy’n dangos ei gynllun a’i fesuriadau. Os ydych yn bwriadu rhentu’r eiddo, byddai o gymorth hefyd pe baech yn darparu gwybodaeth am y rhent yr ydych wedi cytuno ei dalu. Neu, efallai y byddwch yn dymuno cysylltu â chynghorydd ardrethu proffesiynol annibynnol. Gallwch gael manylion cynghorydd lleol cydnabyddedig trwy gysylltu ag RICS neu IRRV neu RSA.
Dylech hysbysu eich awdurdod lleol os ydych yn symud o eiddo busnes oherwydd bydd angen y wybodaeth hon er mwyn cwblhau eich cyfrif trethi busnes ar gyfer yr eiddo yr ydych yn ei adael, gan sicrhau na chodir tâl arnoch am unrhyw gyfnod pan na fyddwch yn yr eiddo.
Os byddwch yn symud i eiddo newydd ac yn cael ffurflen gan eich Swyddfa Brisio leol yn gofyn am fanylion ynghylch y rhent yr ydych yn ei dalu, dylech ei llenwi a’i dychwelyd cyn pen 56 diwrnod. Gallai methu ei dychwelyd yn ystod y cyfnod hwn arwain at gosb.
Newid eich busnes
© 2004 fynhrethibusnes.gov.uk