Defnyddio'r cartref ar gyfer busnes
Os ydych yn gweithio o’ch cartref, yn rhentu cartref gwyliau neu’n cynnig gwely a brecwast – efallai y bydd yn rhaid i chi dalu trethi busnes ar eich eiddo
Bob pum mlynedd, mae gwerthoedd trethadwy yr holl eiddo busnes yng Nghymru a Lloegr, 1.75 miliwn ohonynt, yn cael eu hailasesu. Daeth yr ailbrisiad mwyaf diweddar i rym ar 1 Ebrill 2005. Mae nifer o drethdalwyr yn cael manylion am eu gwerth trethadwy newydd arfaethedig ar ffurf prisiad cryno.
Gall arallgyfeirio eich busnes neu newid yr hyn yr ydych yn ei wneud mewn gwirionedd, effeithio ar eich gwerth trethadwy. Er enghraifft, os bydd ffatri sy’n cynhyrchu nwyddau yn penderfynu troi rhan o’r adeilad yn safle adwerthu er mwyn gwerthu’r nwyddau hynny, mae’r busnes wedi arallgyfeirio o ran ei natur ac efallai y bydd newid cyfatebol yn y gwerth trethadwy.
Os ydych yn ystyried arallgyfeirio eich busnes ac yn dymuno darganfod sut allai hyn effeithio ar eich gwerth trethadwy, dylech gysylltu â’ch Swyddfa Brisio leol, a fydd yn gallu rhoi cyngor i chi.
© 2004 fynhrethibusnes.gov.uk