Defnyddio'r cartref ar gyfer busnes
Os ydych yn gweithio o’ch cartref, yn rhentu cartref gwyliau neu’n cynnig gwely a brecwast – efallai y bydd yn rhaid i chi dalu trethi busnes ar eich eiddo
Bob pum mlynedd, mae gwerthoedd trethadwy yr holl eiddo busnes yng Nghymru a Lloegr, 1.75 miliwn ohonynt, yn cael eu hailasesu. Daeth yr ailbrisiad mwyaf diweddar i rym ar 1 Ebrill 2005. Mae nifer o drethdalwyr yn cael manylion am eu gwerth trethadwy newydd arfaethedig ar ffurf prisiad cryno.
rhagor...
Seiliwyd gwerth trethadwy eich busnes ar ei werth rhentu. Bydd hyn yn cael ei effeithio, ymhlith pethau eraill, gan gyfanswm y lle yr ydych yn ei feddiannu a’ch defnydd ohono. Os byddwch yn gwneud newidiadau i’r adeilad y mae’ch busnes ynddo, er enghraifft addasu’r strwythur, adeiladu estyniad neu newid y ffordd yr ydych yn defnyddio’r lle, gall hyn effeithio ar eich gwerth trethadwy.
Os hoffech gael cyngor am y ffordd y gall unrhyw newidiadau effeithio ar eich gwerth trethadwy cyn i chi eu gwneud, gallwch gysylltu â’ch Swyddfa Brisio leol. Gallwch droi at y gwerthoedd trethadwy ar-lein hefyd os ydych yn dymuno eu cymharu gydag eiddo eraill yn eich ardal.
© 2004 fynhrethibusnes.gov.uk