AilbrisioMae ailbrisio yn ailasesiad o werthoedd trethadwy yr holl eiddo busnes ac annomestig yng Nghymru a Lloegr. Bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn cynnal yr ymarfer ailbrisio bob pum mlynedd. Daeth yr ailbrisiad mwyaf diweddar i rym ar 1 Ebrill 2005.
ApêlMae’r broses apelio ar gael i bob trethdalwr sy’n teimlo bod eu gwerth trethadwy yn anghywir. Mae dewisiadau eraill ar gael i drethdalwyr cyn iddynt apelio, sy’n aml yn gallu bod yn broses hir. Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar gael i ddelio ag unrhyw ymholiadau ynghylch y gwerth trethadwy, a’r Asiantaeth ddylai fod eich pwynt cyswllt cyntaf. Os bydd angen apelio, bydd yn gallu cynnig help yn rhad ac am ddim. Yn ogystal, gall syrfewyr ardrethu proffesiynol ddelio â phroses apêl – cynghorir trethdalwyr i sicrhau bod unrhyw un y byddant yn troi atynt, yn aelod o un o’r cymdeithasau proffesiynol a’u bod yn darllen amodau unrhyw gontract yn ofalus cyn ymrwymo iddo.
Atebolrwydd trethiWeithiau, cyfeirir at y cyfanswm ar y bil trethi fel yr atebolrwydd trethi – faint mae’r trethdalwr yn atebol amdano.
Awdurdod lleolCorff cyhoeddus sy’n gyfrifol am gyfrifo biliau trethi busnes, eu cyhoeddi a chasglu taliadau. Cyfeirir ato fel yr awdurdod bilio, a’r cyngor lleol hefyd.
Bil trethiCaiff hwn ei gyfrifo a’i ddosbarthu gan eich awdurdod lleol bob blwyddyn, rhwng mis Chwefror a mis Ebrill. Mae’n dangos y cyfanswm i’w dalu ar gyfer y flwyddyn i ddod a’r ffordd y cyfrifwyd y ffigwr hwnnw. Gofynnir am daliad mewn nifer o randaliadau fel arfer. Mae’r bil yn dangos cyfanswm pob rhandaliad a’r dyddiadau y dylid eu talu erbyn.
Dyddiad prisioY dyddiad prisio yw’r dyddiad penodol sy’n sail i asesiadau gwerthoedd trethadwy. Mae'r dyddiad hwn bob amser yn cael ei bennu ddwy flynedd cyn i ailbrisiad ddod i rym. Ar gyfer ailbrisiad 2005, y dyddiad prisio oedd 1 Ebrill 2003.
Eiddo annomestigY term a ddefnyddir i ddisgrifio pob eiddo busnes ac eiddo eraill na chânt eu defnyddio at ddibenion domestig yn unig, fel tai.
GostyngiadauMae gostyngiadau yn golygu y cynigir gostyngiad i’r atebolrwydd trethi ac mae nifer o ostyngiadau gwahanol ar gael. Seiliwyd cymhwystra ar fodloni meini prawf penodol ac mae’r rhain yn amrywio gan ddibynnu ar y gostyngiad dan sylw.
Gwerth trethadwyY gwerth sy’n cael ei neilltuo i eiddo annomestig. Caiff ei seilio ar asesiad proffesiynol o’r rhent blynyddol ar gyfer eiddo os byddai ar gael i’w osod ar y farchnad agored ar ddyddiad prisio penodol.
LluosyddFfactor allweddol wrth gyfrifo’r bil trethi busnes. Caiff ei bennu bob blwyddyn gan lywodraeth ganolog ac mae’n pennu canran (a fynegir fel ceiniog yn y bunt) gwerth trethadwy eich eiddo y byddwch yn ei dalu mewn trethi busnes. Yn ogystal, cyfeirir ato fel y Dreth Fusnes Unffurf, neu dâl yn y bunt.
Parthau adwerthuDefnyddir parthau adwerthu, neu drefniadau ‘dynodi parthau’ fel ffordd o bennu gwerth trethadwy siop nodweddiadol. Seiliwyd dynodi safleoedd yn barthau ar yr egwyddor bod rhan fwyaf gwerthfawr siop yn y tu blaen, yn y man sydd agosaf at y brif fynedfa i gwsmeriaid.
Prisiad crynoMae prisiad cryno yn esbonio sut y cyfrifwyd gwerth trethadwy eiddo busnes a gynhwysir yn y rhestr ardrethu. Dosbarthwyd prisiadau cryno i’r rhan fwyaf o drethdalwyr am y tro cyntaf yn ystod mis Hydref 2004; yn ogystal, mae nifer o brisiadau cryno ar gael ar-lein.
Rhestr ardrethuMae gwerth trethadwy pob eiddo busnes ac annomestig yn ymddangos mewn rhestrau ardrethu a gyhoeddir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Cyhoeddwyd y rhestr fwyaf diweddar ar 1 Ebrill 2005 a bydd yn para am bum mlynedd. Mae rhestrau ardrethu ar gael mewn Swyddfeydd Prisio, ar wefan VOA ac mewn rhai llyfrgelloedd cyhoeddus.
Swyddog PrisioCynrychiolydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio, sy'n gyfrifol am fusnesau penodol yn eu hardal.
Syrfëwr ardrethuGweithiwr proffesiynol cymwys sy’n gallu gweithredu fel asiant gan ddelio ag agweddau ar drethi busnes ar ran y trethdalwr. Cynghorir trethdalwyr i weithio gyda syrfëwr sy’n aelod o un o’r cyrff proffesiynol cydnabyddedig yn unig - Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS), Y Sefydliad Ardrethu a Phrisio Refeniw (IRRV) neu Rating Surveyors Association (RSA). Weithiau, cyfeirir at y rhain fel asiant ardrethu.
Trethi busnesY ffordd y mae busnesau ac eiddo annomestig eraill yn cyfrannu at gost gwasanaethau awdurdodau lleol.
Tribiwnlys prisioCeir 4 tribiwnlys prisio yng Nghymru, sy’n delio â Dwyrain, Gogledd, Gorllewin a De Cymru. Cânt eu hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae pob un yn sefydliad annibynnol sy’n delio ag apeliadau ynghylch trethi busnes a threth gyngor. Mae tribiwnlysoedd prisio yn annibynnol ar Asiantaeth y Swyddfa Brisio a'r awdurdod lleol.