Trethi busnes yw’r ffordd y mae busnesau a deiliaid eraill eiddo annomestig yn cyfrannu at gostau gwasanaethau awdurdodau lleol.
Mae gwerth trethadwy eich eiddo, a gwerth yr holl eiddo busnes eraill, yn ymddangos mewn rhestrau ardrethu a gyhoeddir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA). Daeth y rhestrau presennol i rym ar 1 Ebrill 2005 a byddant yn para am bum mlynedd. Mae rhestrau ardrethu ar gael yn swyddfeydd VOA ac ar-lein
Bydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn cynnal ailbrisiad, neu ailasesiad, o’r holl werthoedd trethadwy bob pum mlynedd er mwyn sicrhau eu bod yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ac yn adlewyrchu newidiadau yn y farchnad eiddo. Daeth yr ailbrisiad mwyaf diweddar i rym ar 1 Ebrill 2005.
Mae’r prisiad cryno yn cael ei lunio gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio ac mae’n esbonio sut y cyfrifwyd gwerth trethadwy eich eiddo busnes. rhagor...
Mae gwerth trethadwy eich eiddo yn ffigwr a seiliwyd ar asesiad proffesiynol o rhent blynyddol eiddo os byddai ar gael i’w rentu ar y farchnad agored ar ddyddiad prisio penodol. rhagor...
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn casglu cymaint o dystiolaeth ag y bo modd o’r rhent go iawn a delir am eiddo ledled Cymru. Bydd VOA yn defnyddio’r dystiolaeth hon, ynghyd â gwybodaeth arall, i bennu lefelau gwerth rhentu sy’n briodol mewn lleoliad penodol ar gyfer gwahanol fathau o eiddo. rhagor...
Na. Mae’r gwerth trethadwy yn sail ar gyfer y broses o gyfrifo eich bil trethi. Caiff ei luosi yn erbyn ffactor a bennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru bob blwyddyn o’r enw y lluosydd. rhagor...
Caiff eich gwerth trethadwy ei argraffu yn eich prisiad cryno neu, os nad oes gennych un o’r rhain, ar eich bil trethi. Gallwch weld eich gwerth trethadwy ar-lein trwy droi at www.voa.gov.uk neu gallwch holi eich Swyddfa Brisio leol amdano.
Cyhoeddir prisiadau cryno os bydd gwerth trethadwy eich eiddo yn cael ei ddiwygio.
Dylech ddiwygio unrhyw fanylion anghywir a dychwelyd y prisiad cryno i’r Swyddfa Brisio a anfonodd y prisiad atoch. rhagor...
Defnyddir parthau adwerthu, neu drefniadau 'dynodi parthau', fel ffordd o bennu gwerth trethadwy siop nodweddiadol. rhagor...
Y gwerth trethadwy yw’r asesiad o’r rhent y byddai modd gofyn amdano fel rhent blynyddol os byddai ar gael ar y farchnad agored ar ddyddiad penodol. Gallai’r gwerth trethadwy fod yn wahanol i’r rhent yr ydych yn ei dalu am nifer o resymau – er enghraifft, efallai y cytunwyd ar eich rhent ar adeg gwahanol.
Os yw’r ffeithiau am eich eiddo yn gywir ond os ydych yn anghytuno â’ch gwerth trethadwy, gallwch gysylltu â VOA ar 0845 602 1507. Os nad ydych yn fodlon o hyd, ar ôl cael ateb i’ch cwestiynau, gallwch apelio. rhagor...
Bydd eich awdurdod lleol yn anfon eich bil trethi atoch rywbryd rhwng mis Chwefror a mis Ebrill bob blwyddyn. Efallai y cyhoeddir bil newydd os bydd eich gwerth trethadwy yn cael ei ddiwygio.
Dylech gysylltu â’ch awdurdod lleol yn syth os ydych yn cael anhawster i dalu eich taliadau bil trethi. Efallai y bydd yn gallu rhoi cymorth i chi ond mae’n rhaid i chi drafod hyn gydag ef.
Oes, ceir rhai eithriadau fel:
Gallwch apelio yn uniongyrchol i’ch Swyddfa Brisio leol – gall roi’r ffurflen angenrheidiol i chi – neu gallwch aelio ar-lein trwy droi at www.voa.gov.uk. Gallwch wneud hyn yn rhad ac am ddim. Neu, efallai y byddwch yn dymuno cysylltu ag asiant ardrethu er mwyn cael cyngor ynghylch apelio ac i ofyn iddynt ddelio â’r apêl ar eich rhan. Os byddwch yn dewis gwneud hyn, fe’ch cynghorir yn gryf i gyflogi asiant sy’n aelod o un o'r cyrff proffesiynol a nodir yn yr adran Cysylltiadau.
© 2004 fynhrethibusnes.gov.uk