VOA
Mas Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn gyfrifol am asesu gwerthoedd trethadwy, a ddefnyddir gan awdurdodau lleol i gyfrifo biliau trethi busnes.
www.voa.gov.uk
Chwiliwch am eich Swyddfa Brisio leol
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gyfrifol am ddatblygu a gweithredu polisi ar gyfer trethu lleol yng Nghymru.
www.wales.gov.uk
VTS
Mae'r Gwasanaeth Tribiwnlys Prisio (VTS) yng Nghymru yn gorff cyhoeddus anadrannol gweithredol. Noddir VTS gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac mae'n atebol i'r Senedd trwy'r Ysgrifennydd Gwladol am ei weithgareddau a'i berfformiad. Nod VTS yw 'darparu staff, safleoedd a staff cymorth eraill, a chyngor cyffredinol i Dribiwnlysoedd Prisio yng Nghymru er mwyn sicrhau eu gweithrediad effeithlon ac annibynnol.'
www.valuation-tribunals-wales.gov.uk
RICS
Mae Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) yn gorff proffesiynol i'r rhai sy'n ymwneud â thir, prisio, eiddo tiriog, adeiladu a materion amgylcheddol. Mae gan RICS linell gymorth (0870 333 1600) sy'n cynnig cyngor am ddim, am yr hanner awr gyntaf, gan syrfëwr ardrethu lleol.
Gwefan RICS Cymru
IRRV
Y Sefydliad Ardrethu a Phrisio Refeniw (IRRV) yw'r corff proffesiynol ar gyfer trethi lleol, budd-daliadau a phrisio. Mae'n hyrwyddo arfer gorau ac yn cynorthwyo gweithgareddau proffesiynol ei aelodau sy'n gweithio yn y llywodraeth ac y myd masnach.
www.irrv.org.uk
RSA
Mae The Rating Surveyors' Association (RSA) yn sefydliad proffesiynol sy'n cynrychioli buddiannau Syrfewyr Siartredig profiadol sy'n arbenigo ym maes trethi busnes.
www.ratingsurveyorsassociation.org
Awdurdodau Lleol
Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am gyfrifo biliau trethi busnes, rhoi unrhyw ostyngiad a allai fod yn briodol, a chasglu'r arian.
Rhestr o awdurdodau lleol yng Nghymru
© 2004 fynhrethibusnes.gov.uk