Understanding summary valuations
Bob pum mlynedd, mae gwerthoedd trethadwy yr holl eiddo busnes yng Nghymru a Lloegr, 1.75 miliwn ohonynt, yn cael eu hailasesu. Daeth yr ailbrisiad mwyaf diweddar i rym ar 1 Ebrill 2005. Mae nifer o drethdalwyr yn cael manylion am eu gwerth trethadwy newydd arfaethedig ar ffurf prisiad cryno.
Mae mwy a mwy o bobl yn gweithio o’u cartref. Os ydych chi yn un ohonynt, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu trethi busnes ar gyfer rhan yr eiddo a ddefnyddir gennych er mwyn gweithio. Byddwch yn parhau i dalu’r dreth gyngor ar gyfer gweddill eich eiddo fel arfer. Fodd bynnag, gallai’r cyfanswm yr ydych yn ei dalu am y rhan honno o’r eiddo, ostwng.
Bydd nifer o ffactorau yn pennu a fyddwch yn gorfod talu trethi busnes ar gyfer y safle a ddefnyddir yn eich cartref fel ‘swyddfa’. Bydd y rhain yn cynnwys graddau ac amlder y defnydd busnes a wneir o’r ystafell (neu ystafelloedd) ac unrhyw addasiadau arbennig a wnaethpwyd i’r eiddo. Ystyrir pob achos yn unigol, fel arfer trwy gyfrwng ymweliad gan eich Swyddfa Brisio leol – y dylech gysylltu â hi am fanylion pellach. Os bydd angen asesu eich eiddo at ddibenion trethi busnes, bydd eich Swyddfa Brisio yn cyfrifo gwerth trethadwy ar gyfer y rhan a ddefnyddir at ddibenion annomestig.
© 2004 fynhrethibusnes.gov.uk