Bob pum mlynedd, mae gwerthoedd trethadwy yr holl eiddo busnes yng Nghymru a Lloegr, 1.75 miliwn ohonynt, yn cael eu hailasesu. Daeth yr ailbrisiad mwyaf diweddar i rym ar 1 Ebrill 2005. Mae nifer o drethdalwyr yn cael manylion am eu gwerth trethadwy newydd arfaethedig ar ffurf prisiad cryno.
Os ydych yn rhentu eich cartref er mwyn i eraill fyw ynddo, bydd yr eiddo yn cael ei drin fel eiddo domestig fel arfer. Felly, telir treth gyngor ac ni chodir trethi busnes. Dylech drafod y sefyllfa gyda’ch Swyddfa Brisio leol os oes gennych unrhyw amheuon.
© 2004 fynhrethibusnes.gov.uk