Bob pum mlynedd, mae gwerthoedd trethadwy yr holl eiddo busnes yng Nghymru a Lloegr, 1.75 miliwn ohonynt, yn cael eu hailasesu. Daeth yr ailbrisiad mwyaf diweddar i rym ar 1 Ebrill 2005. Mae nifer o drethdalwyr yn cael manylion am eu gwerth trethadwy newydd arfaethedig ar ffurf prisiad cryno.
Os oes gennych gartref gwyliau, dim ond os byddwch yn bwriadu sicrhau ei fod ar gael i’w rentu am o leiaf 140 diwrnod y flwyddyn y byddwch yn gorfod talu trethi busnes ar gyfer yr eiddo. Fel arall, byddwch yn talu treth gyngor. Ond mae’n rhaid i chi wneud penderfyniad ymwybodol i gyfyngu archebion i 139 diwrnod (neu lai). Os na fyddwch yn gwneud hyn, cynhelir asesiad trethi busnes ar gyfer eich eiddo – beth bynnag fo nifer y diwrnodau yr ydych wedi ei osod mewn gwirionedd.
Gallai unrhyw asesiad o werth trethadwy eich eiddo ystyried unrhyw rhent yr ydych yn ei dalu, math, maint, ansawdd a lleoliad y llety, a’i botensial o ran incwm.
© 2004 fynhrethibusnes.gov.uk