Bob pum mlynedd, mae gwerthoedd trethadwy yr holl eiddo busnes yng Nghymru a Lloegr, 1.75 miliwn ohonynt, yn cael eu hailasesu. Daeth yr ailbrisiad mwyaf diweddar i rym ar 1 Ebrill 2005. Mae nifer o drethdalwyr yn cael manylion am eu gwerth trethadwy newydd arfaethedig ar ffurf prisiad cryno.
Os ydych yn bwriadu cynnig llety gwely a brecwast yn eich cartref, dylech gysylltu â’ch Swyddfa Brisio leol er mwyn gweld a fyddwch yn gorfod talu trethi busnes neu beidio.
Yn gyffredinol, os byddwch yn bodloni’r holl feini prawf canlynol, ni fydd yn rhaid i chi dalu trethi busnes (byddwch yn talu treth gyngor yn unig ar gyfer eich eiddo):
Cyn belled ag y bo modd, mae’r prawf defnydd ategol yn sicrhau na fyddwch yn gorfod talu trethi busnes os ydych yn darparu llety cyfyngedig am gyfnod byr yn eich cartref. Dim ond pan fydd gwely a brecwast yn datblygu i fod yn fenter fusnes sylweddol y bydd yn rhaid talu trethi busnes ar eich eiddo. Mae’r prawf yn ystyried y ffactorau canlynol:
Llety a ddefnyddir – os bydd hanner eich eiddo neu fwy yn cael ei ddefnyddio at ddibenion Gwely a Brecwast ar unrhyw adeg, mae’n debygol y bydd angen i chi dalu trethi busnes ar gyfer yr eiddo.
Addasiadau i’r eiddo – os ydych wedi gwneud newidiadau penodol er mwyn bod o fudd i westeion, efallai y bydd angen talu trethi busnes ar gyfer yr eiddo. Gallai’r addasiadau hyn gynnwys basnau ymolchi, ystafelloedd ymolchi neu gyfleusterau ensuite ychwanegol, neu ragofalon tân.
Natur y defnydd – yn ogystal, ystyrir ffactorau megis a yw’r eiddo ar agor trwy gydol y flwyddyn, a yw’n gweini prydau gyda’r hwyr neu a oes ganddo drwydded.
Os ydych yn bwriadu cynnig llety i fwy na chwech o bobl ar yr un pryd, bydd yn rhaid i chi dalu trethi busnes ar gyfer rhan eich eiddo a ddefnyddir i’r diben hwnnw. Bydd yn rhaid i chi dalu treth gyngor ar gyfer rhan yr eiddo a ddefnyddir fel eich cartref chi o hyd. Bydd eich Swyddfa Brisio leol yn gallu rhoi cyngor pellach i chi.
Gallai unrhyw asesiad o werth trethadwy eich eiddo ystyried unrhyw rhent yr ydych yn ei dalu, nifer a mathau yr ystafelloedd gwely, lleoliad ac ansawdd y llety, ac a oes cyfleusterau bwyty sydd ar agor i’r rhai nad ydynt yn aros yno.
© 2004 fynhrethibusnes.gov.uk