Defnyddio'r cartref ar gyfer busnes
Os ydych yn gweithio o’ch cartref, yn rhentu cartref gwyliau neu’n cynnig gwely a brecwast – efallai y bydd yn rhaid i chi dalu trethi busnes ar eich eiddo
Bob pum mlynedd, mae gwerthoedd trethadwy yr holl eiddo busnes yng Nghymru a Lloegr, 1.75 miliwn ohonynt, yn cael eu hailasesu. Daeth yr ailbrisiad mwyaf diweddar i rym ar 1 Ebrill 2005. Mae nifer o drethdalwyr yn cael manylion am eu gwerth trethadwy newydd arfaethedig ar ffurf prisiad cryno.
A ydych yn bwriadu cychwyn busnes? Yn gyffredinol, pa fenter bynnag y byddwch yn ymgymryd â hi, bydd gan eich busnes werth trethadwy a bydd yn rhaid i chi dalu trethi busnes. Bydd angen i chi sicrhau eich bod yn deall yr hyn y mae hyn yn ei olygu – bydd yr adran hon yn eich helpu i wneud hynny.
Sut mae trethi busnes yn gweithio
© 2004 fynhrethibusnes.gov.uk