Defnyddio'r cartref ar gyfer busnes
Os ydych yn gweithio o’ch cartref, yn rhentu cartref gwyliau neu’n cynnig gwely a brecwast – efallai y bydd yn rhaid i chi dalu trethi busnes ar eich eiddo
Understanding summary valuations
Bob pum mlynedd, mae gwerthoedd trethadwy yr holl eiddo busnes yng Nghymru a Lloegr, 1.75 miliwn ohonynt, yn cael eu hailasesu. Daeth yr ailbrisiad mwyaf diweddar i rym ar 1 Ebrill 2005. Mae nifer o drethdalwyr yn cael manylion am eu gwerth trethadwy newydd arfaethedig ar ffurf prisiad cryno.
Wrth ddewis eiddo ar gyfer eich busnes newydd, efallai nad y trethi y bydd yn rhaid i chi eu talu fydd un o’r costau cyntaf y byddwch yn eu hystyried – ond gallai fod yn ystyriaeth bwysig, yn enwedig i fusnesau bach ac yn enwedig os ydych yn llunio cynllun busnes.
Gallwch ddarganfod gwerth trethadwy unrhyw eiddo busnes mewn ardal awdurdod lleol trwy edrych ar y rhestr ardrethu. Mae hon yn ddogfen gyhoeddus ac mae modd edrych arni yn eich Swyddfa Brisio leol, swyddfeydd awdurdod lleol ac mewn rhai llyfrgelloedd cyhoeddus. Gallwch edrych ar y gwerth trethadwy ar-lein hefyd – a gweld sut mae’n cymharu gydag eiddo tebyg fesul cod post.
Cofiwch nad y gwerth trethadwy yw’r cyfanswm y byddwch yn ei dalu fel trethi busnes. I ddarganfod beth fydd cyfanswm eich bil trethi busnes, dylech gysylltu ag adran gyllid eich awdurdod lleol.
Os yw’r eiddo yn cael ei adeiladu o hyd neu os yw newydd gael ei adeiladu, efallai na fydd wedi cael ei asesu at ddibenion ardrethu eto – felly ni fydd unrhyw gofnod ohono yn y rhestr ardrethu. Gallwch ofyn am amcangyfrif o’i werth trethadwy trwy ysgrifennu at eich Swyddfa Brisio leol. Bydd angen i chi gynnwys manylion ynghylch cyfeiriad yr eiddo, y math o eiddo ydyw – er enghraifft siop neu swyddfa – a chynllun sy’n dangos ei gynllun a’i fesuriadau. Os ydych yn rhentu’r eiddo, byddai o gymorth hefyd pe baech yn darparu gwybodaeth am y rhent yr ydych wedi cytuno ei dalu. Mae cysylltu â’ch Swyddfa Brisio leol bob amser yn gam cyntaf da. Neu, efallai y byddwch yn dymuno cysylltu â chynghorydd ardrethu proffesiynol annibynnol. Gallwch gael manylion cynghorydd lleol cydnabyddedig trwy gysylltu ag RICS, IRRV neu RSA.
Os byddwch yn symud i eiddo newydd ac yn cael ffurflen gan eich Swyddfa Brisio leol yn gofyn am fanylion ynghylch y rhent yr ydych yn ei dalu, dylech ei llenwi a’i dychwelyd cyn pen 56 diwrnod. Gallai methu ei dychwelyd yn ystod y cyfnod hwn arwain at gosb.
© 2004 fynhrethibusnes.gov.uk