Defnyddio'r cartref ar gyfer busnes
Os ydych yn gweithio o’ch cartref, yn rhentu cartref gwyliau neu’n cynnig gwely a brecwast – efallai y bydd yn rhaid i chi dalu trethi busnes ar eich eiddo
Bob pum mlynedd, mae gwerthoedd trethadwy yr holl eiddo busnes yng Nghymru a Lloegr, 1.75 miliwn ohonynt, yn cael eu hailasesu. Daeth yr ailbrisiad mwyaf diweddar i rym ar 1 Ebrill 2005. Mae nifer o drethdalwyr yn cael manylion am eu gwerth trethadwy newydd arfaethedig ar ffurf prisiad cryno.
Mae’r rhan fwyaf o fusnesau yn talu trethi busnes – dyma’r ffordd y maent yn cyfrannu at gost gwasanaethau awdurdodau lleol. Bydd yr union gyfanswm a delir gan eich busnes yn dibynnu ar nifer o ffactorau – gan gynnwys natur eich busnes, lleoliad eich eiddo, ei faint a sut yr ydych yn bwriadu ei ddefnyddio.
Defnyddir y ffactorau hyn gan eich Swyddfa Brisio leol i bennu gwerth trethadwy ar gyfer eiddo. Nid dyma gyfanswm y trethi y byddwch yn ei dalu, ond mae’n cynrychioli gwerth rhentu eich eiddo. Bydd eich awdurdod lleol yn lluosi hwn yn erbyn ffactor a elwir y lluosydd, neu’r Dreth Fusnes Unffurf er mwyn cyfrifo eich bil trethi, cyn ei anfon atoch.
Gallai’ch busnes fod yn gymwys i fanteisio ar nifer o ostyngiadau. Os ydych yn credu y gallech fod yn gymwys ar gyfer unrhyw rai ohonynt, dylech gysylltu â’ch awdurdod lleol a chofrestru gydag ef cyn gynted ag y bo modd.
© 2004 fynhrethibusnes.gov.uk